Arfordir Cymru yw’r lle gorau i ymweld ag ef, yn ôl llawlyfr Lonely Planet 2012. Ai Ceredigion yw’r lle gorau un – beth yw’ch barn chi? mwy
Ar 21 Chwefror 2011, agorwyd rhan newydd o Lwybr Arfordirol Cymru, sy'n rhedeg rhwng Aberteifi a Llandudoch, gan Jane Davidson AC. Mae'r rhan hon sy’n 2 filltir yn gyswllt byr ond eto mae’n arwyddocaol gan ei fod cysylltu Llwybr Arfordir Ceredigion â Llwybr Arfordir Sir Benfro ac yn creu llwybr cyfun hir sydd yn fwy na 250 milltir o hyd.
Gerald Morgan, awdur a hanesydd lleol o Aberystwyth, sydd wedi ysgrifennu’r llawlyfr swyddogol, ‘Llwybr Arfordir Ceredigion - o Afon Teifi hyd Afon Dyfi’.
Mae Canllaw Llwybr yr Arfordir ar gael o ganolfannau croeso a llefydd eraill.
Cwblhawyd y gwaith i roi wyneb newydd ar y llwybr a chael gwared â’r holl risiau rhwng Clarach a Chraig Glais.
Bydd cam olaf y gwaith rhwng Aberporth a Thresaith yn gwyro Llwybr Arfordir Ceredigion i’r de-orllewin o Dresaith gan osgoi’r angen am unrhyw risiau.
Mae’r rhan hwn o’r llwybr rhwng y pentrefi sy’n 3.2 cilomedr (2 filltir) i gyd bellach ag arwyneb caled ac mae’n darparu llwybr i gerddwyr sy’n addas ar gyfer bob tywydd ar hyd y rhan boblogaidd hon o’r arfordir.
Cymal cyntaf y gwaith hwn oedd creu Llwybr y Clogwyn Aber-porth â Mynediad i Bawb sy'n 1 cilomedr o hyd, sydd ag arwyneb o’r radd flaenaf ac sy’n cydymffurfio â safonau graddiant i gadeiriau olwyn.
Mae'r llwybr hwn yn adnodd gwerthfawr ychwanegol at draeth Aber-porth sy’n cynnig mynediad hwylus i gadeiriau olwyn a thoiledau.
Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn dilyn trywydd 60 milltir / 96 cilomedr rhwng aberoedd afonydd Teifi a Dyfi. Mae’r llwybr yn cysylltu trefi a phentrefi ar yr arfordir, gan gynnig golygfeydd ysblennydd o arfordir Bae Ceredigion. Gallwch edrych ymlaen at weld blodau gwyllt, adar y môr a llu o anifeiliaid eraill. Dysgwch am hanes cyfoethog yr ardal, gan gynnwys bryngaerau o’r Oes Haearn, maglau pysgod o’r canol oesoedd a phorthladdoedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae arfordir Ceredigion yn arbennig.
Mae’n amrywiol hefyd, gan gynnwys twyni tywod Ynyslas, clogwyni uchel, traethau tywodlyd ac ogofâu. Dynodwyd pedwar rhan yn Arfordir Treftadaeth, a cheir dwy Ardal Cadwraeth Arbennig Morol sydd yn bwysig o ran bywyd gwyllt.
P’un ai’r ydych yn bwriadu mynd am dro bach gan gychwyn o lan y môr, neu’n dymuno mynd ar daith fwy anturus ar glogwyni creigiog, mae gan Lwybr Arfordir Ceredigion rywbeth i’w gynnig i chi.
Gallwch ehangu’ch gorwelion gyda’r Cardi Bach, gwasanaeth bws lleol sy’n cysylltu trefi a phentrefi ar hyd arfordir deheuol y sir (mae cynlluniau ar droed ar gyfer cynnal y gwasanaeth yn 2012) neu gallwch ddefnyddio’r trên yng ngogledd y sir. Gallwch grwydro o amgylch y mewndir ar nifer o deithiau cylchol ger yr arfordir. Ceir amrywiaeth helaeth o lefydd i aros, gyda llawer ohonynt yn cymryd rhan yn y cynlluniau Croeso i Gerddwyr a Cab-a-Bag (cludo bagiau).
Os ydych chi’n mwynhau cerdded, mae’r profiad o fynd ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion yn un rhy dda i’w golli.