Mae’r hawliau tramwy sydd yn ffurfio Llwybr Arfordir Ceredigion yn llwybrau cyhoeddus yn bennaf felly gellir ond eu defnyddio ar droed.
Mae yna rif cyfyngedig o lwybrau eraill yn ardal yr arfordir y gellir ond eu defnyddio gan bobl ar geffylau a seiclwyr (llwybrau ceffyl, cilffyrdd cyfyngedig a chilffyrdd) - dangosir y llwybrau hyn ar fapiau Arolwg Ordnans. Mae yna hefyd rannau hawdd o’r Llwybr y gellir eu mwynhau gan bobl nad ydynt yn medru symud o gwmpas yn hawdd, cadeiriau olwyn neu gadeiriau gwthio.
Sicrhewch bob amser fod gennych yr offer addas i wneud eich taith gerdded ac i ymdopi â thywydd cyfnewidiol. Er eich diogelwch personol, cadwch at Lwybr yr Arfordir a pheidiwch â cherdded ger ymyl y clogwyn.
Mae prifwynt y gorllewin yn dod â thywydd cyfnewidiol i arfordir Bae Ceredigion. Byddwch yn barod am dywydd gwael a chymerwch ofal pellach pan fydd hi’n wyntog. Gwisgwch neu cariwch ddillad cynnes a/neu ddillad sydd yn medru gwrthsefyll glaw ar deithiau cerdded hir. Os am ragor o wybodaeth am y rhagolygon tywydd pum niwrnod, ewch i: www.metoffice.com.
Mae gan Lwybr Arfordir Ceredigion nifer o deithiau cerdded dramatig ar ben clogwyni. Cadwch at y llwybr a chymerwch ofal – mae’r llwybr yn agos iawn at ymyl y clogwyn mewn nifer o fannau.
Os bydd argyfwng, ffoniwch Wylwyr y Glannau – 999
Gwisgwch fŵts neu esgidiau cerdded trwm bob amser - gall llwybrau fod yn fwdlyd.
Mae’r rhan o Lwybr yr Arfordir rhwng Cei Newydd a Llanina yn pasio dros y traeth yn Nhraethgwyn. Nid yw’r rhan hon ar gael adeg llanw uchel – gwiriwch amodau’r llanw ymlaen llaw. Gellir defnyddio’r ffordd o Gei Newydd i Lanina fel ffordd arall, ond dylid cymryd gofal (gall rhan gyntaf y ffordd fod yn brysur, er bod llwybr troed yn cael ei adeiladu yno)
Mae traethau eraill – yn Llan-non a Borth – yn cynnig dewis i Lwybr yr Arfordir ond effeithir ar fynediad iddynt gan amodau’r llanw.
Gellir dod o hyd i amserlenni llanw Ceredigion ar wefan twristiaeth y Cyngor:www.tourism.ceredigion.gov.uk.
Mae nifer o rannau o’r llwybr troed yn croesi tir fferm sydd yn cael ei bori gan wartheg neu ddefaid ac aflonyddir ar fywyd gwyllt sy’n dibynnu ar yr ardal. Cadwch eich ci o dan reolaeth.