golygfa o Mwnt gwylan gefnddu leiaf

Rhan 1 – cyfanswm pellter o 18.7 cilomedr (11.7 milltir)

Aberteifi i Aberporth

Ynys Aberteifi

Aberteifi i Wbert

Pellter 5.6 cilomedr (3.5 milltir), gradd - hawdd

Mae’r rhan yma’n mynd drwy gaeau fferm i’r gogledd o Afon Teifi, at lwybr wrth ymyl y ffordd gerllaw’r aber. Wrth gerdded i ffwrdd o Aberteifi, daw’r aber i’r golwg fesul dipyn.

Map 1; Aberteifi - Mwnt

Gwbert i Fwnt

Pellter 5.8 cilomedr (3.6 milltir), gradd - hawdd

Ar hyn o bryd mae’r rhan hon yn mynd yn bennaf ar hyd y ffordd, ond mae gwaith yn mynd yn ei flaen i greu llwybr cyswllt newydd ar hyd tir fferm ac yna ar hyd yr arfordir.

Map 2; Mwnt – Aberporth

Penpeles

Mwnt i Aberporth

Pellter 8 cilomedr (5 milltir), gradd - cymedrol

Rhan anghysbell o Lwybr yr Arfordir sy’n mynd dros glogwyni a llethrau arfordirol, y tu hwnt i’r tir amaethyddol. Mae tawelwch a llonyddwch y llwybr hwn yn mynd â chi ymaith o brysurdeb bywyd modern.

Wrth i chi ddod at Aberporth mae’r llwybr yn gwyro tua’r mewndir drwy Gwm Gwrddon er mwyn osgoi canolfan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

 

Rhan 2 - Aberporth i Langrannog