Mae Llwybr y Clogwyn â Mynediad i Bawb yn dechrau yn Aberporth ac yn dod i ben wrth y fainc picnic hanner ffordd i Dresaith sy’n addas i gadeiriau olwyn.
Gyda chlogwyni uchel a thraethau tawel, mae’r rhan helaeth o’r rhan drawiadol hon o’r llwybr yn arfordir treftadaeth. Mae’r rhaeadr ar draeth Tresaith (chwith) yn arbennig o anarferol, ac fe’i crëwyd gan rewlifau yn gwyro Afon Saith.
Map 1; Aberporth - Llangrannog
Pellter 3.2 cilomedr (2 filltir), gradd - hawdd/cymedrol
Llwybr ac arwyneb bob tywydd sy’n mynd dros y clogwyn rhwng y ddau bentref, gan gynnig golygfeydd godidog. Mae’r hanner deheuol yn addas i gadeiriau olwyn..
Pellter 2.6 cilomedr (1.6 milltir), gradd - cymedrol/anodd
Mae’r llethr arfordirol serth yn gwyro’r llwybr ychydig tua’r mewndir, sy’n golygu dringo’n uchel i gyrraedd uchder o 125 metr.
Pellter 2.9 cilomedr (1.8 milltir), gradd - anodd
Eto mae nodweddion yr arfordir yn golygu bod y llwybr ychydig yn bellach o’r môr. Gyda dau ddarn serth sy’n agos at ei gilydd, dyma un o rannau anoddaf Llwybr Arfordir Ceredigion.