Gellid dadlau mai’r Arfordir Treftadaeth ar y llwybr hwn yw’r rhan fwyaf godidog o Lwybr Arfordir Ceredigion, gan ei fod yn cynnwys Ynys Lochtyn, sy’n ymddangos mewn silwét ar logo Llwybr yr Arfordir.
Pellter 9.4 cilomedr (5.9 milltir), gradd - cymedrol
Nid yn unig bod y rhan hon yn mynd heibio Ynys Lochtyn, mae hefyd yn cynnwys llwybr bendigedig wedi’i dorri i mewn i’r llethrau (ochr dde uchaf). Mae yno lwybr cylchol mewndirol hefyd sy’n mynd drwy gwm coediog hyfryd.
Map 1; dewisiadau llwybr Llangrannog - Cwmtydu
Pellter 5.6 cilomedr (3.5 milltir, gradd - cymedrol
Mae’r rhan hon yn mynd drwy Gwm Soden, lle gwych i weld daeareg arfordirol gydag enghreifftiau trawiadol o greigiau plyg (chwith eithaf). Mae hefyd yn mynd heibio hen wylfa Gwylwyr y Glannau ar Graig yr Aderyn, sydd yn lle gwych i gael cip ar fywyd gwyllt ac adar y môr.