Gradd – cymedrol / anodd
Gan nad oes unrhyw drefi na phentrefi rhwng y ddau le yma, a dim llawer o ‘lwybrau cyflenwi’, dyma un o’r rhannau y gwneir lleiaf o ddefnydd ohoni. Er bod cerdded ar hyd yr Arfordir Treftadaeth hwn yn dipyn o her, mae’n drawiadol, yn unig ac yn wirioneddol werth chweil.
Mae uchafbwyntiau’r rhan hon o lwybr yr arfordir yn cynnwys y ‘coetir derw crog’ ar Glogwyni Penderi. Y brif rywogaeth yn y fan hon yw’r dderwen ddigoes, ond ceir rhywogaethau eraill hefyd gan gynnwys pisgwydd dail bychain. Coed canopi tal yw’r rhain fel arfer, ond yma mae gwynt y môr wedi’u hatal rhag tyfu. Er hynny, maent yn gysgod i amrywiaeth o blanhigion coedwigol. Mae’r clogwyni hefyd yn gynefin pwysig ac yn ardal fagu ar gyfer amrywiaeth helaeth o adar y môr.