Mae gwasanaeth bws yr arfordir – y ‘Cardi Bach’ – – yn boblogaidd dros ben â thrigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Yn 2010, roedd y Cardi Bach yn rhedeg rhwng 26 Mehefin a 26 Medi, gyda chymorth Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru a chynghorau tref a chymuned ar hyd y ffordd.
Mae nifer y teithwyr wedi cynyddu bob blwyddyn, gyda chyfanswm o 4,694 yn dal y bws yn 2010. Sicrhawyd cyllid drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig i redeg y Cardi Bach gydol y flwyddyn o 2011 ymlaen.
Am wybodaeth am gludiant cyhoeddus, galwch Traveline Cymru ar 0871 200 22 33.
Dim ond yng ngogledd Ceredigion y mae yno reilffordd. Er hynny, mae’r trên yn ffordd gyfleus o fynd at yr arfordir o’r rhan helaeth o ardaloedd mewndirol.
Gallwch fynd at Lwybr Arfordir Ceredigion o’r gorsafoedd yn Aberystwyth a’r Borth, ac mae modd cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru yng ngogledd Ceredigion yng Nghyffordd Dyfi
Mae yno fysus yn mynd i Aberystwyth o Gaerdydd (701) ac Amwythig - Birmingham - Llundain (409).
Mae bysus yn mynd yn aml ar hyd ffordd yr arfordir rhwng Aberteifi ac (yr X50 a’r 550 drwy Geinewydd ac Aberporth) ac i fyny i Fachynlleth (yr X28 a’r X32). Ceir gwasanaethau hefyd rhwng Aberystwyth ac Aberaeron (X40), Aberaeron - Llangrannog - Aberporth - Aberteifi (552), Aberystwyth a’r Borth (512) a rhwng Aberteifi a Sir Benfro (405 a 407). Amserlenni bysus
Yn ystod yr Haf bu bws y ‘Cardi Bach’ yn gyswllt rhwng Aberteifi a’r Ceinewydd a phentrefi arfordir Bae Ceredigion. Daeth gwasanaeth yr Haf i ben eleni ar 9 Hydref. Unwaith eto bu’r gwasanaeth, a gafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 2004, yn boblogaidd gyda’r trigolion lleol ac ymwelwyr.
Fodd bynnag, caiff gwasanaeth newydd y Cardi Bach ei gyflwyno cyn gynted ag y bo modd yn 2012, a bydd yn cael ei ariannu drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig. Bydd y gwasanaeth newydd ar gael rhwng Aberteifi a’r Ceinewydd drwy gydol y flwyddyn (chwe diwrnod yr wythnos yn yr Haf a thri diwrnod yr wythnos ar adegau eraill).
Mae’n anffodus na fydd y Cardi Bach ar gael y Gaeaf hwn ond unwaith y bydd y trefniadau newydd ar waith bydd y Cardi Bach yn fwy diogel yn ariannol a bydd yn cynnig gwasanaeth gwell. Yn ogystal â grant y Cynllun Datblygu Gwledig, bydd y Cardi Bach yn cael ei ariannu gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru a Tracc.
Mae Cabsafe yn wasanaeth sy’n galluogi pobl i dderbyn negeseuon testun ar eu ffonau yn cynnwys rhifau ffôn cwmnïau tacsis lleol sy’n gymeradwy dan y cynllun. Lle bynnag yr ydych yng Ngheredigion, anfonwch neges yn dweud ‘CAB’ i’r rhif 83222, ac fe gewch wybod am dacsis trwyddedig sydd ar gael yn yr ardal.