Switch to English 

Creu Llwybr yr Arfordir

 

Mae llawer o bobl i roi diolch iddynt am ddatblygu Llwybr yr Arfordir, gan gynnwys tirfeddiannwyr am eu cydweithrediad wrth lunio llwybrau newydd a gwirfoddolwyr am eu cyfraniad tuag at waith ar y llwybrau.

 

Bu gwirfoddolwyr Cymdeithas y Cerddwyr yn gwneud cyfraniad pwysig i’r broses o ddatblygu Llwybr yr Arfordir.  Bu gwirfoddolwyr a fu’n gweithio gyda Swyddog Llwybrau’r Arfordir allan ym mhob tywydd yn pennu’r llwybrau newydd. Yn 2006, cliriodd gwirfoddolwyr filltiroedd o lwybrau, gan dorri drwy brysgoed trwchus a thyllu llwybrau newydd, codi camfeydd a chlwydi, gosod 15 pont ac adfer darnau o gloddiau cerrig.

 

Cydnabuwyd ymdrechion y gwirfoddolwyr yn 2006 drwy roi’r wobr uchaf iddynt am y prosiect gorau yng Ngwobrwyon Gweithwyr Llwybrau Troed Cymdeithas y Cerddwyr.  

 

Mae eraill a gyfrannodd i’r gwaith datblygu yn cynnwys Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth a Gwirfoddolwyr y Cenhedloedd Unedig. 

 

 

Oni ddywedir yn wahanol, Cyngor Sir Ceredigion sydd berchen yr hawlfraint ar yr holl ddefnyddiau gwreiddiol welir ar y safle hwn © 2008. Cliciwch yma ar gyfer ein datganiad preifatrwydd. Os oes gennych unrhyw sylw i'w gynnig ar y wefan hon yna mae croeso i chi ddanfon neges ebost atom.