Daeareg yr Arfordir
Yng Ngheredigion,
mae’r creigiau o dan ein traed yn perthyn i’r oes Silwraidd ac Ordofigaidd a
osodwyd ar lawr basn y môr dwfn rhwng 505 a 406 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Ymgododd y creigiau gwaddodol hyn, sef cerrig llaid, lleidfeini a thywodfeini, a
daethant uwchben y môr mewn cyfnod diweddarach pan luniwyd mynyddoedd. Achosodd
hynny iddynt fynd yn blyg a diffygiol. Gwelir y creigiau a’u strwythurau orau ar
hyd yr arfordir.
Dros yr 800,000 o flynyddoedd diwethaf, cafwyd nifer o rewlifiannau yng Ngheredigion. Arhosodd y cyfnod rhewlifol diwethaf tan tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ystod yr iâ diwethaf, roedd dwy system rewlifol o arwyddocâd arbennig i Geredigion: roedd un ohonynt yng Nghanolbarth Cymru a haen iâ Môr Iwerddon oedd y llall.
Clogwyni creigiog sydd gan fwyaf yn wynebu traethlin Ceredigion, ond mae rhai mannau lle y mae wyneb y creigiau ychydig bellter o’r glannau ac wedi’u cuddio gan ddyddodion rhewlifol: cymysgedd o gerrig, tywod graean a chlai. Ceir clogwyni clai clogfaen isel ar hyd arfordir Aberaeron a Llannon tra bo’r deunydd hwn yn ffurfio clogwyni o hyd at 45 metr o uchder mewn rhannau eraill ym Morfa Bychan ac i’r gogledd o Glarach.
Ar y môr, mae ‘sarnau’ Bae Ceredigion yn ddyledus i’r Oes Iâ ddiwethaf am eu bodolaeth. Mae’r sarnau yn nodwedd bwysig o Fae Ceredigion. Maent ar ffurf deunydd rhewlifol a waddodwyd fwy na thebyg gan rewlif iâ Cymru wedi i rewlif Môr Iwerddon encilio. Mae pum sarn ym Mae Ceredigion gyda thair ohonynt oddi ar arfordir Ceredigion, sef Sarn Gynfelin, Sarn Dewi a Sarn Cadwgan. Mae Sarn Gynfelin yn ymestyn tua’r môr o draeth Wallog am tua 12 km. Bu’r sarn hon yn destun chwedl leol ‘Cantre’r Gwaelod’.