Switch to English 

Arfordir Treftadaeth

 

Mae arfordir Bae Ceredigion rhwng aberoedd y Dyfi a’r Teifi yn cynnwys amrywiaeth gyfoethog o arfordir – twyni Ynyslas, stormdraethau, baeau tywodlyd a chlogwyni uchel.  Dynodir rhai o’r tirweddau arfordirol gorau yn ‘Arfordir Treftadaeth’.

Mae 2007 yn dynodi 25ain mlynedd yn hanes Arfordir Treftadaeth Ceredigion.  Mae’r Arfordiroedd Treftadaeth yn cwmpasu’r darnau gorau o arfordir Cymru a Lloegr sydd heb ei ddatblygu. Nod rheoli’r Arfordir Treftadaeth yw sicrhau eu cadw a hyrwyddo rhwydd hynt iddynt a mwynhad.

Mae Arfordir Treftadaeth Ceredigion yn cwmpasu 22 milltir (35km) o arfordir mewn pedair rhan:

 

  • Borth - Clarach
  • Monks Cave - Llanrhystud
  • Ceinewydd - Tresaith
  • Pen-peles - Gwbert

 

Pennwyd y rhan rhwng Ceinewydd a Thresaith yn ddiweddarach yn ‘Arfordir Etifeddiaeth Forol’, sef menter gymunedol a anelir at gadw bywyd gwyllt morol arbennig yr ardal, gan gynnwys y Dolffin Trwynbwl.  Ers hynny, bu’r gymuned leol a’r Cyngor Sir yn gweithio mewn partneriaeth i helpu i gadw cymeriad arbennig yr Arfordir Treftadaeth Forol. Y fenter wirfoddol hon oedd y gyntaf o’i bath ym Mhrydain.

 


 

 

 

 

 

 

 

 

Oni ddywedir yn wahanol, Cyngor Sir Ceredigion sydd berchen yr hawlfraint ar yr holl ddefnyddiau gwreiddiol welir ar y safle hwn © 2008. Cliciwch yma ar gyfer ein datganiad preifatrwydd. Os oes gennych unrhyw sylw i'w gynnig ar y wefan hon yna mae croeso i chi ddanfon neges ebost atom.