Hanes yr Arfordir
Bu’r môr yn ddylanwad mawr ar Geredigion. Bu ei chymunedau arfordirol ar un adeg yn ganolfannau llewyrchus ym maes adeiladu llongau a’r diwydiant llongau. Bu calch a thanwydd yn fewnforion cyffredin a oedd yn gwasanaethu’r gefnwlad amaethyddol. Hefyd, bu Bae Ceredigion yn bysgodfa bwysig i benwaig a pharhaodd y gweithgarwch hwnnw mewn porthladdoedd lleol tan y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r gaer fryniog drawiadol o’r Oes Haearn sydd ym Mhendinas, Aberystwyth (gyda chofgolofn Wellington ar ei chopa yn fwy diweddar) yn dyddio o tua 600CC. Datgelodd yr ardal hon drigolion llawer cynharach – ymsefydlodd crychau helwyr ar lethrau isaf Pendinas gan ddefnyddio rhan o’r traeth yn ffatri fflintiau.
Roedd harbwr Aberystwyth yn ganolfan ar gyfer adeiladu llongau ac ar gyfer allforio mwyn o’r nifer o fwyngloddiau yng ngogledd Ceredigion. Mae cerdded ar hyd lan y môr yn Aberystwyth yn datgelu llawer o agweddau o hanes y dref, ei chastell a adeiladwyd gan Edward I, datblygiad ei phrifysgol a’r dref lan môr Fictorianaidd.
Gellir dod o hyd i gastell arall yn Aberteifi sydd ychydig bellter o’r arfordir ar Aber y Teifi. Cododd Rhys ap Gruffydd, rheolwr y Deheubarth, gastell cerrig yma yn 1171 ar safle caer Normanaidd gynharach. Hefyd, ef a gynhaliodd yr Eisteddfod gyntaf yn Aberteifi yn 117. Aberteifi oedd porthladd pwysicaf Cymru ar un adeg. Yn y 18fed ganrif, allfudodd llawer o bobl Sir Aberteifi o’r porthladd yn yr ‘Albion’ a llongau eraill i ddechrau bywyd newydd ar gyfandir America.
Gwreiddiau mwy diweddar sydd i Aberaeron. Bu ar un adeg yn bentref pysgota a phasiwyd Deddf Gwlad yn y 19fed ganrif i adeiladu harbwr a llunio’r dref. Gallai John Nash fod wedi dylanwadu ar ei gynllun. Heddiw, mae terasau lliwgar Aberaeron yn tynnu ymwelwyr o bell ffordd.
Mae datblygiad cynnar Ceinewydd yn ddyledus i’r broses o godi harbwr yn 1830. Roedd Dylan Thomas yn byw yn Nhrwyn Llanina sydd gerllaw rhwng 1944-45. Gallai Ceinewydd fod wedi bod yn ybrydoliaeth i ‘Under Milk Wood’'.
Enwyd Llannon ar ôl y Santes Non a oedd yn ôl pob tebyg yn lleian mewn mynachlog Geltaidd leol a chredir i’w mab, Dewi Sant, gael ei eni yn Llannon tua 500 OC. Ychydig o newid a welwyd yn y ‘slangs’, rhwng y pentref a’r môr, dros y canrifoedd – maent yn ein hatgoffa o’r system caeau agored o ffermio a arferid yma ar un adeg.
Mae’r arfodir yn cynnig cipolygon niferus eraill o dreftadaeth Ceredigion sy’n amrywio o odynau calch i’r trapiau pysgod o’r oesoedd canol sydd yn Aberarth a adeiladwyd gan fynachod Ystrad Fflur.