Llwybr Arfordir Ceredigion - O'r Teifi i'r Dyfi
Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn dilyn trywydd 60 milltir rhwng aberoedd y Teifi a’r Dyfi. Mae’r llwybr troed yn cysylltu trefi a phentrefi’r arfordir ar hyd golygfeydd ysblennydd Bae Ceredigion. Bydd cerddwyr yn gweld blodau gwyllt, adar y môr a chyfoeth o fywyd gwyllt. Mae hanes cyfoethog yr ardal yn amlwg, o gaerau’r oes haearn i borthladdoedd y 19eg ganrif.
Mae arfordir Ceredigion yn arbennig. Byddwch yn darganfod arfordir cyfoethog; y twyni yn Ynyslas, stormdraethau, baeau tywodlyd a chlogwyni uchel. Dynodir pedair rhan yn Arfordir Treftadaeth tra bo dwy ardal ym Mae Ceredigion yn Ardaloedd Cadwraeth Forol Arbennig oherwydd eu pwysigrwydd i fywyd gwyllt.
Rhoddwyd cymorth i brosiect Llwybr yr Arfordir gan Raglen Amcan 1 yr UE, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chymdeithas y Cerddwyr.
Cyhoeddwyd arweinlyfr swyddogol ar gyfer Llwybr yr Arfordir gan y Cyngor Sir – ‘Llwybr Arfordir Ceredigion – o’r Teifi i’r Dyfi’. Ysgrifennwyd ef gan Gerald Morgan.
Mae arweinlyfr llwybr yr arfordir ar gael o’r Canolfannau Croeso a mannau eraill.
Os ydych am wybodaeth i ymwelwyr ynglŷn ag arfordir Ceredigion, cliciwch yma.
.jpg)