Switch to English 

Gwybodaeth Ddefnyddiol

 

Mae’r hawliau tramwy sydd yn ffurfio Llwybr Arfordir Ceredigion yn llwybrau cyhoeddus yn bennaf felly gellir ond eu defnyddio ar droed.

Mae yna rif cyfyngedig o lwybrau eraill yn ardal yr arfordir y gellir ond eu defnyddio gan bobl ar geffylau a seiclwyr (llwybrau ceffyl, cilffyrdd cyfyngedig a chilffyrdd) - dangosir y llwybrau hyn ar fapiau Arolwg Ordnans. Mae yna hefyd rannau hawdd o’r Llwybr y gellir eu mwynhau gan bobl nad ydynt yn medru symud o gwmpas yn hawdd, cadeiriau olwyn neu gadeiriau gwthio.

Sicrhewch bob amser fod gennych yr offer addas i wneud eich taith gerdded ac i ymdopi â thywydd cyfnewidiol. Er eich diogelwch personol, cadwch at Lwybr yr Arfordir a pheidiwch â cherdded hyd at ymyl y clogwyn.


 

Diogelwch ar Lwybr yr Arfordir

 

Tywydd
 

Mae prifwynt y gorllewin yn dod â thywydd cyfnewidiol i arfordir Bae Ceredigion.  Byddwch yn barod am dywydd gwael a chymerwch ofal pellach pan fydd hi’n wyntog.  Gwisgwch neu gariwch ddillad cynnes a/neu ddillad sydd yn medru gwrthsefyll glaw ar deithiau cerdded hir.  Os am ragor o wybodaeth am y rhagolygon tywydd pum niwrnod, ewch i:

www.metoffice.com

 

 

Clogwyni
 

Mae gan Lwybr Arfordir Ceredigion nifer o deithiau cerdded ar ben clogwyni dramatig.  Cadwch at y llwybr a chymerwch ofal – mae’r llwybr yn agos iawn at ymyl y clogwyn mewn nifer o fannau.

 

Os bydd argyfwng, ffoniwch Wylwyr y Glannau – 999

 

Esgidiau
 

Gwisgwch fŵts neu esgidiau cerdded trwm bob amser - gall llwybrau fod yn fwdlyd

 

Llanw
 

Mae’r rhan o Lwybr yr Arfordir rhwng Cei Newydd a Llanina yn pasio dros y traeth yn Nhraethgwyn.  Nid yw’r rhan hon ar gael adeg llanw uchel – gwiriwch amodau’r llanw ymlaen llaw. Gellir defnyddio’r ffordd o Gei Newydd i Lanina fel ffordd arall, ond dylid cymryd gofal (gall y rhan cyntaf o’r ffordd fod yn brysur ac nid oes llwybr troed yno)  

 

Traethau eraill – yn Llan-non a Borth – cynnig dewis i Lwybr yr Arfordir ond effeithir ar fynediad gan amodau’r llanw.

                                                                                                                        

Gellir dod o hyd i amserlenni llanw Ceredigion ar wefan twristiaeth y Cyngor.

 

http://www.tourism.ceredigion.gov.uk/cymraeg/index.htm

 

Da Byw
 

Mae nifer o rannau o’r llwybr troed yn croesi tir y fferm sydd yn cael ei bori gan wartheg neu ddefaid.  Cadwch eich ci o dan reolaeth.

 

Cod Cefn Gwlad

 

‘Parchwch – Diogelwch – Mwynhewch’

  • Byddwch Ddiogel – cynlluniwch ymlaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion

  • Gadewch gatiau ac eiddo fel yr oeddent

  • Diogelwch blanhigion ac anifeiliaid, ac ewch â’ch sbwriel adref gyda chi

  • Cadwch gŵn o dan reolaeth agos

  • Ystyriwch bobl eraill

 

Oni ddywedir yn wahanol, Cyngor Sir Ceredigion sydd berchen yr hawlfraint ar yr holl ddefnyddiau gwreiddiol welir ar y safle hwn © 2008. Cliciwch yma ar gyfer ein datganiad preifatrwydd. Os oes gennych unrhyw sylw i'w gynnig ar y wefan hon yna mae croeso i chi ddanfon neges ebost atom.