Lansio Llwybr yr Arfordir
Cynhaliwyd agoriad swyddogol Llwybr Arfordir Ceredigion ar y 3ydd o Orffennaf
yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog. Dadorchuddiodd Jane Davidson AC, Gweinidog
dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai blinth gyda phennill ynglŷn ag arfordir
Ceredigion gan y bardd lleol Dic Jones, a gadeiriwyd ddwy waith yn yr Eisteddfod
Genedlaethol.
Nodwyd agoriad Llwybr yr Arfordir gan daith gerdded chwe diwrnod ar hyd Llwybr
yr Arfordir, a drefnwyd gan y Cyngor Sir a Chymdeithas y Cerddwyr.
Gan ddechrau ar y 4ydd o Orffennaf yng Nghei’r Tywysog Siarl, Aberteifi,
anfonwyd cerddwyr llwybr yr arfordir ar eu ffordd gan Rhodri Morgan AC, Prif
Weinidog. Yna cerddodd Rhodri Morgan ar hyd rhan o’r arfordir ger Mwnt er mwyn
edrych ar y gwaith a wnaethpwyd o dan brosiect Llwybr yr Arfordir.
Edrychwch ar
y dathliad taith gerdded chwe niwrnod ar dudalen Canolbarth Cymru ar
wefan y BBC
Cliciwch er mwyn gwneud yn fwy.