Edrych am fywyd gwyllt
Mae Llwybr yr Arfordir yn rhoi llawer o gyfle i fwynhau arfordir ‘gwyllt’ Ceredigion. Dyma rai awgrymiadau:
Ynys Aberteifi
O Barc Fferm Ynys Aberteifi, cewch olygfa dda o Ynys Aberteifi a chyfle i wylio morloi a dolffiniaid. Ychwanegwyd Canolfan Ymwelwyr yn ddiweddar (mae tâl mynediad i’r Parc Fferm)
Ynys Lochtyn, Llangrannog
Pentir ysblennydd a lle ardderchog i edrych am ddolffiniaid trwynbwl, adar y môr a’r frân goesgoch brin.
Man gwylio Bae Ceredigion, Ceinewydd
Cerddwch ar hyd yr arfordir o Geinewydd i gyrraedd y man gwylio sy’n bwrw golwg dros Graig yr Adar. O’r cyn fan gwylio hwn o eiddo Gwylwyr y Glannau, gallwch weld dolffiniaid a llamhidyddion ynghyd â morloi llwydion yn ymlusgo ar hyd y creigiau. Craig yr Adar yw’r ardal bwysicaf i fagu adar y môr yng Ngheredigion.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am fywyd gwyllt yr arfordir ac Ardal Gadwraeth Arbennig Bae Ceredigion yn y ‘Man Cychod’ yng Ngheinewydd.
Pendinas a Thraeth Tan y Bwlch, Aberystwyth
Gwarchodfa Natur Leol a reolir gan y Cyngor Sir. Cynefinoedd amrywiol gan gynnwys dolydd, llethrau prysgoed ac esgair o gerrig mân islaw caer fryniog Pendinas sy’n dyddio o’r Oes Haearn.
Ynyslas, Borth
Gwarchodfa Natur Genedlaethol ar Aber y Dyfi gyda rhodfeydd sy’n mynd drwy dwyni tywod sy’n llawn blodau. Canolfan Ymwelwyr.