Switch to English 

Cludiant


Cludiant Mae’r Cardi Bach yn ei ôl! Fe fydd y gwasanaeth bws poblogaidd yn rhedeg o 26 Mehefin hyd 26 Medi 2010 (bob diwrnod o’r wythnos ac eithrio dydd Mercher).

Fe welwch y Cardi Bach yn mynd ar ei daith rhwng Aberteifi a Chei newydd, yn cysylltu pentrefi’r arfordir ar y ffordd. Heb unrhyw ffws gallwch fwynhau golygfeydd bendigedig o Fae Ceredigion, a chael cyfle i gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion. Ceir rhesel i feiciau ar y bws hefyd, gyda lle i ddau feic.

Ers cyflwyno’r Cardi Bach yn 2004, bu cynnydd yn nifer y teithwyr bob blwyddyn. Yn 2009, defnyddiodd oddeutu 4,000 o bobl y gwasanaeth.

Cefnogir y Cardi Bach gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru a’r cynghorau tref a chymuned sydd ar lwybr y bws (Aberteifi, Y Ferwig, Aberporth, Penbryn, Llangrannog, Llandysiliogogo Llanllwchaearn a Chei Newydd).

Gweithredir y gwasanaeth gan y Brodyr Richards o Aberteifi.

Mae nifer o wasanaethau bysiau eraill y gellir eu defnyddio i fynd at gychwyn eich taith gerdded. Mae gwasanaethau mynych yn gweithredu rhwng Aberystwyth, Aberaeron a Cheinewydd. Hefyd, gallwch ddal y trên rhwng Aberystwyth a’r Borth a cherdded yn ôl ar hyd y clogwyni.

Taflen / amserlen - 2010

Amserlen - 2010

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau cludiant lleol ac amserlenni, bwrwch olwg dros dudalennau adain cludiant cyhoeddus gwefan y Cyngor Sir neu ymwelwch â gwefan Traveline Cymru.

 

Oni ddywedir yn wahanol, Cyngor Sir Ceredigion sydd berchen yr hawlfraint ar yr holl ddefnyddiau gwreiddiol welir ar y safle hwn © 2008. Cliciwch yma ar gyfer ein datganiad preifatrwydd. Os oes gennych unrhyw sylw i'w gynnig ar y wefan hon yna mae croeso i chi ddanfon neges ebost atom.