Cerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir
Os byddwch am fynd am dro am awr neu frasgamu am wythnos, dewch o hyd i’r hyn yr ydych yn chwilio amdano. Ymunwch â Llwybr Arfordir Ceredigion mewn trefi, pentrefi neu feysydd parcio ar hyd yr arfordir. Codir arwyddion a chyfeirbwyntiau ar gyfer y Llwybr.
Llwybr Arfordir Ceredigion mewn amrantiad – cliciwch ar y mapiau er mwyn gweld y trywydd:
|
Adran |
Lleoliad |
Milltiroedd |
Km |
Lawrlwytho Mapiau |
|
1
|
Aberteifi i Aber-porth (SN177458 i SN258516) |
11.7 |
18.7
|
|
|
2
|
Aber-porth i Langrannog (SN258516 i SN310541) |
4.8 |
7.7 |
|
|
3
|
Llangrannog i Gei Newydd (SN310541 i SN457601) |
9.4 |
15.0 |
|
|
4
|
Cei Newydd i Aberaeron (SN457601 i SN457627) |
6.5 |
10.5 |
|
|
5
|
Aberaeron i Lanrhystud (SN457627 i SN538693) |
7.4 |
11.9 |
|
|
6
|
Llanrhystud i Aberystwyth (SN538693 i SN582820) |
10.6 |
17.0 |
|
|
7
|
Aberystwyth i Ynys-las (SN582820 i 609940) |
9.8 |
15.7 |
|
|
|
Cyfanswm |
60.3 |
95.3 |
|
|
Nodiadau ar y Llwybr |
|
Rhan 1 – Gwbert: Mae trywydd llwybr yr arfordir ger Gwbert ar hyn o bryd yn destun apêl gyfreithiol ac nid yw ar gael. Defnyddiwch y trywydd arall gan ddilyn y ffordd i’r Ferwig: gweler Mapiau 1.2 a 1.3. |
|
Rhan 3 – Llangrannog i Gwmtydu: Nid oes unrhyw ‘fannau gadael’ ar hyd y darn newydd o lwybr yr arfordir rhwng Canolfan yr Urdd a Chwmtydu (2.5 milltir / 4 km): gweler Mapiau 3.1 a 3.2. Mae’r ffordd fach sydd yn rhedeg yn gyfochrog i’r arfordir yn darparu llwybr arall. |
Mapiau Arolwg Ordnans Landranger
Map 145 Aberteifi a Mynydd Preseli
Map 146 Llanbedr Pont Steffan a Llanymddyfri
Map 135 Aberystwyth a Machynlleth
Mapiau Arolwg Ordnans Explorer
Map 198 Aberteifi a Chei Newydd
Map 213 Aberystwyth a Cwmrheidol