Switch to English 

Bywyd Gwyllt yr Arfordir


Ewch yn wyllt ar hyd arfordir Ceredigion.  Mae ystod o gynefinoedd yn eich disgwyl, sef clogwyni, baeau tywodlyd, stormdraethau, twyni ac aberoedd.    

Mae’r adar môr a welir yn gyffredin ar hyd yr ardaloedd hyn yn cynnwys gwylanod y penwaig, gwylanod llai cefnddu, pïod y môr a’r bilidowcar. Yng Nghraig yr Adar ger Ceinewydd, mae nifer fawr o chwilogod, gweilch y penwaig, gwylanod coesddu, adar drycin y graig a mulfrain gwyrddion yn nythu bob haf.  Mae clogwyni’r arfordir hefyd yn gynefin i’r cudyll glas. Efallai hefyd y gwelwch y y frân goesgoch, sef aelod o deulu’r frân sydd â phig a choesau coch.      

Yn yr haf, mae’r blodau sydd ar wynebau’r clogwyni ac ar lethrau’r arfordir ar eu mwyaf lliwgar.  Mae’r planhigion yn cynnwys y glustog Fair, gludlys arfor, llwylys cyffredin, amranwen y môr, ffacbys a bara can y defaid.  Mae twyni tywod Ynyslas sy’n ffinio ag Aber y Dyfi hefyd yn llawn blodau.

Mae ardal fawr o forfa heli ar hyd glannau deheuol aber y Dyfi.  Mae morfeydd heli a’r traethellau lleidiog yn fwyd i adar, yn enwedig rhai sy’n mudo dros y gaeaf megis corhwyaid a chwiwiaid.

Mae dyfroedd arfordir Bae Ceredigion yn baradwys i fywyd gwyllt.  Mae morloi llwydion yn defnyddio’r cildraethau diarffordd i ymlusgo ar greigiau a gwelir dolffiniaid trwynbwl a llamhidyddion yr harbwr yn aml yn agos gyda’r lan. Mae’r dolffiniaid trwynbwl sydd ym Mae Ceredigion a’u cynefin yno o bwysigrwydd rhyngwladol.  Mae’r ardal hon yn Ardal Gadwraeth Arbennig.  Mae nodweddion eraill yr Ardal a ddiogelir yn cynnwys ogofeydd môr, y morlo llwyd a llysywen bendoll yr afon a’r môr.     

Mae ardal forol arall a ddiogelir ymhellach tua’r gogledd ym Mae Ceredigion, sef Ardal Gadwraeth Arbennig Penllŷn a Sarnau.  Ei chynefinoedd, gan gynnwys sarnau ac aberoedd, ynghyd â’r dolffin trwynbwl a’r morlo llwyd, sy’n ei gwneud yn ardal o ddiddordeb arbennig.

Cardigan Bay SAC

 

Oni ddywedir yn wahanol, Cyngor Sir Ceredigion sydd berchen yr hawlfraint ar yr holl ddefnyddiau gwreiddiol welir ar y safle hwn © 2008. Cliciwch yma ar gyfer ein datganiad preifatrwydd. Os oes gennych unrhyw sylw i'w gynnig ar y wefan hon yna mae croeso i chi ddanfon neges ebost atom.